1 Kings 12:26-30

26Roedd Jeroboam yn ofni y byddai'r frenhiniaeth yn mynd yn ôl i deulu Dafydd. 27Roedd yn ofni pe bai'r bobl yn mynd i aberthu yn Nheml yr Arglwydd yn Jerwsalem, y bydden nhw'n cael eu denu yn ôl at eu hen feistr, Rehoboam, brenin Jwda, ac y byddai e'i hun yn cael ei ladd ganddyn nhw. 28Ar ôl trafod gyda'i gynghorwyr, dyma fe'n gwneud dau darw ifanc o aur, a dweud wrth y bobl, “Mae'n ormod o drafferth i chi fynd i fyny i Jerwsalem i addoli.

Bobl Israel, dyma'r duwiau
wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft.”

29A dyma fe'n gosod un tarw aur yn Bethel, a'r llall yn Dan. 30Gwnaeth i Israel bechu yn ofnadwy. Aeth y bobl ag un ohonyn nhw mewn prosesiwn yr holl ffordd i Dan!

Copyright information for CYM