1 Kings 17:17-24

17Beth amser wedyn dyma fab y wraig oedd biau'r tŷ yn cael ei daro'n wael. Aeth o ddrwg i waeth, nes yn y diwedd iddo stopio anadlu. 18A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Pa ddrwg dw i wedi ei wneud i ti, broffwyd Duw? Wyt ti wedi dod yma i'm cosbi i am fy mhechod a lladd fy mab?”

19Dyma Elias yn ateb, “Rho dy fab i mi.” A dyma fe'n cymryd y bachgen o'i breichiau, a'i gario i fyny i'r llofft lle roedd yn aros, a'i roi i orwedd ar y gwely. 20Yna dyma fe'n galw ar yr Arglwydd, “O Arglwydd fy Nuw, wyt ti wir am wneud drwg i'r weddw yma sydd wedi rhoi llety i mi, drwy ladd ei mab hi?”

21A dyma fe'n ymestyn ei hun dros y bachgen dair gwaith, a galw ar yr Arglwydd: “O Arglwydd, fy Nuw, plîs tyrd â'r bachgen yma yn ôl yn fyw!” 22A dyma'r Arglwydd yn gwrando ar weddi Elias, a dyma'r bachgen yn dechrau anadlu eto. Roedd yn fyw!

23Dyma Elias yn codi'r bachgen a mynd ag e i lawr y grisiau yn ôl i'w fam, a dweud wrthi, “Edrych, mae dy fab yn fyw!”

24A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Nawr dw i'n gwybod dy fod ti'n broffwyd
17:24 broffwyd Hebraeg, “dyn Duw”
go iawn, a bod yr Arglwydd wir yn siarad trwot ti.”

2 Kings 4:25-37

25Ac i ffwrdd â hi i Fynydd Carmel i weld y proffwyd.
4:25 Ac i ffwrdd … i weld y proffwyd Taith o tua 25 milltir.

Gwelodd Eliseus hi'n dod o bell, a dyma fe'n dweud wrth Gehasi ei was, “Edrych, y wraig o Shwnem sydd acw. 26Brysia, rhed i'w chyfarfod, a gofyn iddi os ydy popeth yn iawn gyda hi a'i gŵr, a'i phlentyn.”

“Ydy, mae popeth yn iawn,” oedd ei hateb i Gehasi. 27Ond pan gyrhaeddodd hi'r proffwyd ar y mynydd dyma hi'n gafael yn ei draed.

Dyma Gehasi yn mynd ati gan feddwl ei symud, ond dyma'r proffwyd yn dweud wrtho, “Paid. Gad lonydd iddi. Mae rhywbeth mawr yn ei phoeni. Ond dydy'r Arglwydd ddim wedi dweud wrtho i beth ydy e.”

28Yna dyma hi'n dweud wrtho, “Syr, wnes i ofyn i ti am fab? Wnes i ddim pledio arnat ti i beidio dweud celwydd wrtho i?”

29Dyma Eliseus yn dweud wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, a dos. Cymer fy ffon i. Paid stopio i gyfarch neb ar y ffordd. Dos a cyffwrdd wyneb y bachgen gyda'r ffon.”

30Ond dyma fam y plentyn yn dweud, “Mor sicr â bod yr Arglwydd yn fyw, a tithau'n fyw, dw i ddim am fynd yn ôl hebot ti.” Felly dyma Eliseus yn mynd gyda hi.

31Roedd Gehasi wedi mynd o'u blaenau nhw, ac wedi rhoi'r ffon ar wyneb y bachgen. Ond doedd yna dim ymateb o gwbl. Felly aeth yn ôl i'w cyfarfod a dweud, “Wnaeth y bachgen ddim deffro.”

32Pan gyrhaeddodd Eliseus y tŷ, dyna lle roedd y bachgen yn gorwedd yn farw ar ei wely. 33Dyma fe'n cau'r drws tu ôl iddo a gweddïo ar yr Arglwydd. 34Yna dyma fe'n mynd at y plentyn a gorwedd arno, gan roi ei geg ar geg y plentyn, ei lygaid ar ei lygaid a'i ddwylo ar ei ddwylo. Dyma fe'n ymestyn drosto nes i gorff y plentyn dwymo. 35Yna dyma Eliseus yn codi ar ei draed a bu'n cerdded yn ôl a blaen yn y tŷ. Wedyn aeth e'n ôl a gorwedd ar gorff y bachgen eto, a dyma'r bachgen yn tisian saith gwaith ac yn agor ei lygaid.

36Dyma Eliseus yn galw Gehasi a dweud wrtho, “Gofyn i fam y bachgen ddod yma.” Dyma Gehasi'n ei galw, a pan ddaeth hi dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Cymer dy fab.” 37Dyma hi'n syrthio ar ei gliniau wrth ei draed. Yna dyma hi'n codi ei mab a mynd allan.

Dwy wyrth arall

Copyright information for CYM