‏ 1 Samuel 15:3-9

3Felly dos i daro'r Amaleciaid. Dinistriwch nhw'n llwyr, a llosgi eu heiddo. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw. Lladdwch nhw i gyd – yn ddynion a merched, plant a babis bach, gwartheg a defaid, camelod ag asynnod.’”

4Felly dyma Saul yn galw'r fyddin at ei gilydd a'i cyfri nhw yn Telaïm. Daeth 200,000 o filwyr traed a 10,000 o ddynion o Jwda. 5Aeth Saul a'i fyddin i gyfeiriad y trefi lle roedd yr Amaleciaid yn byw, a chuddio yn y sychnant yn barod i ymosod. 6Wedyn anfonodd neges at y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd o'r ardal. Peidiwch aros gyda'r Amaleciaid, rhag i chi gael eich difa gyda nhw. Buoch chi'n garedig wrth bobl Israel pan oedden nhw'n dod o'r Aifft.
15:6 Buoch … Aifft Roedd tad-yng-nghyfraith Moses yn un o'r Ceneaid. gw. Numeri 10:29-32; Barnwyr 1:16
” Felly dyma'r Ceneaid yn gadael yr Amaleciaid.

7Yna dyma Saul yn ymosod ar yr Amaleciaid a'u taro o Hafila yr holl ffordd i Shwr sydd wrth ymyl yr Aifft. 8Cafodd Agag, brenin yr Amaleciaid, ei ddal yn fyw, ond cafodd ei bobl i gyd eu lladd â'r cleddyf. 9Dyma Saul a'i fyddin yn gadael i Agag fyw, a dyma nhw hefyd yn cadw'r gorau o'r defaid a'r geifr, y gwartheg, y lloi, yr ŵyn ac unrhyw beth arall oedd o werth. Doedden nhw ddim am ladd yr anifeiliaid gorau, ond cafodd y rhai gwael a diwerth i gyd eu lladd.

Yr Arglwydd yn gwrthod Saul

Copyright information for CYM