2 Kings 24:1

1Pan oedd Jehoiacim yn frenin, dyma Nebwchadnesar,
24:1 Nebwchadnesar Roedd yn teyrnasu ar Babilon o 605 i 562 CC
brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Buodd Jehoiacim dan ei reolaeth am dair blynedd
24:1 am dair blynedd 604–601 CC mae'n debyg
. Ond yna dyma fe'n gwrthryfela.

2 Chronicles 36:5-7

5Roedd Jehoiacim yn ddau ddeg pump oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw. 6Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Dyma fe'n ei roi mewn cadwyni pres a mynd ag e'n gaeth i Babilon. 7Cymerodd Nebwchadnesar rai o lestri teml yr Arglwydd a mynd â nhw i Babilon a'u gosod yn ei balas ei hun.
Copyright information for CYM