2 Kings 24:10-16

10Yr adeg yma dyma fyddin Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod a gwarchae
24:10 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu'r ddinas a'i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan.
ar Jerwsalem.
11Tra roedden nhw'n gwarchae arni dyma Nebwchadnesar ei hun yn dod i arwain yr ymosodiad. 12A dyma Jehoiachin, brenin Jwda, yn ildio ac yn mynd allan at frenin Babilon gyda'i fam, gweinidogion y llywodraeth, ei gapteiniaid a swyddogion y palas. Roedd Nebwchadnesar wedi bod yn frenin am wyth mlynedd pan gymerodd Jehoiachin yn garcharor.
24:12 wyth mlynedd Digwyddodd hyn i gyd yn 597 CC

13Yna dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau'r deml i gyd, a thrysorau'r palas, a malu'r holl lestri aur roedd y brenin Solomon wedi eu gwneud i'r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr Arglwydd wedi rhybuddio
24:13 rhybuddio gw. 20:16-18.
.
14A dyma fe'n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a'r milwyr dewr, y crefftwyr a'r gweithwyr metel – deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd.

15Dyma fe'n mynd â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, a'i fam a'i wragedd, swyddogion y palas a pobl fawr y wlad i gyd. 16Aeth â'r saith mil o filwyr oedd yn y wlad yn gaethion, a'r mil o ofaint a gweithwyr metel – pob milwr dewr oedd yn gallu ymladd.

2 Chronicles 36:10

10Yn y gwanwyn dyma Nebwchadnesar yn anfon rhai i'w gymryd e i Babilon, a llestri gwerthfawr o deml yr Arglwydd hefyd. A dyma frenin Babilon yn gwneud perthynas iddo, Sedeceia, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.

Sedeceia yn frenin Jwda

(2 Brenhinoedd 24:18-20; Jeremeia 52:1-3a)

Daniel 1:1-7

1Yn y drydedd flwyddyn
1:1 y drydedd flwyddyn 605 CC Roedd Jehoiacim yn frenin o 609 i 598 CC Byddai Daniel yn fachgen yn ei arddegau ar y pryd
pan oedd y Brenin Jehoiacim yn teyrnasu ar Jwda, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon,
1:1 Nebwchadnesar, brenin Babilon Roedd Nebwchadnesar yn teyrnasu o tua 605 i 562 CC Byddai Daniel yn fachgen yn ei arddegau ar y pryd
yn ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. f
2A dyma Duw yn gadael iddo ddal Jehoiacim, brenin Jwda. Cymerodd nifer o bethau o'r deml hefyd. Aeth â nhw yn ôl i wlad Babilon,
1:2 wlad Babilon Hebraeg,  Shinar sy'n hen enw am wlad Babilon.
a'i cadw yn y trysordy yn nheml ei dduw. h

3Dyma'r brenin yn gorchymyn i Ashpenas, prif swyddog ei balas, chwilio am Israeliaid ifanc oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol a theuluoedd bonedd eraill – 4dynion ifanc cryfion, iach a golygus. Rhai galluog, wedi cael addysg dda, ac yn fechgyn doeth, cymwys i weithio yn y palas. Roedden nhw i ddysgu iaith Babilon
1:4 Babilon Hebraeg, “Caldeaid”, sy'n hen enw am y Babiloniaid.
, a hefyd dysgu am lenyddiaeth y wlad.
5A dyma'r brenin yn gorchymyn eu bod i gael bwyta'r bwyd a'r gwin gorau, wedi ei baratoi yn y gegin frenhinol. Ac roedd rhaid iddyn nhw gael eu hyfforddi am dair blynedd cyn dechrau gweithio i'r brenin. 6Roedd pedwar o'r rhai gafodd eu dewis yn dod o Jwda – Daniel, Hananeia, Mishael, ac Asareia. 7Ond dyma'r prif swyddog yn rhoi enwau newydd iddyn nhw. Galwodd Daniel yn Belteshasar, Hananeia yn Shadrach, Mishael yn Meshach, ac Asareia yn Abednego.
1:7 Ond dyma'r … Abednego Roedd rhoi enwau newydd yn arwydd o berchnogaeth. Newidwyd eu henwau Hebreig i enwau oedd yn dyrchafu duwiau Babilon. Ystyr yr enwau Hebreig: Daniel – ‛Duw ydy fy Marnwr‛; Hananeia – ‛Mae'r Arglwydd wedi bod yn hael‛; Mishael – ‛Pwy sydd fel Duw?‛; ac Asareia – ‛Mae'r Arglwydd wedi helpu‛.

Copyright information for CYM