Exodus 25:16

16Wedyn mae Llechi'r Dystiolaeth dw i'n eu rhoi i ti, i'w gosod y tu mewn i'r Arch.

Deuteronomy 10:3-5

3“Felly dyma fi'n gwneud cist o goed acasia, a cherfio dwy lechen garreg oedd yr un fath â'r rhai cyntaf. Wedyn dyma fi'n mynd i fyny'r mynydd yn cario'r ddwy lechen. 4A dyma'r Arglwydd yn ysgrifennu'r un geiriau ac o'r blaen ar y ddwy lechen, sef y Deg Gorchymyn. (Sef beth roedd e wedi ei ddweud wrthoch chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd.) Yna dyma fe'n eu rhoi nhw i mi, 5a dyma fi'n mynd yn ôl i lawr o'r mynydd, a'u rhoi nhw yn y gist roeddwn i wedi ei gwneud. Maen nhw'n dal tu mewn i'r gist hyd heddiw. Dyna roedd yr Arglwydd wedi ei orchymyn.

Copyright information for CYM