Ezekiel 3:16-21

16Yna ar ôl wythnos dyma fi'n cael neges gan yr Arglwydd: 17“Ddyn, dw i'n dy benodi di yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti. 18Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim wedi ei rybuddio a'i annog i newid ei ffyrdd a byw, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw. 19Ond os byddi di wedi ei rybuddio, ac yntau wedi gwrthod newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun. a

20“Ar y llaw arall, os ydy rhywun sydd fel arfer yn gwneud beth sy'n iawn yn newid ei ffyrdd ac yn dechrau gwneud pethau drwg, bydda i'n achosi i rywbeth ddigwydd fydd yn gwneud i'r person hwnnw syrthio. Bydd e'n marw. Os na fyddi di wedi ei rybuddio bydd e'n marw am ei fod wedi pechu. Fydd y pethau da wnaeth e o'r blaen ddim yn cyfrif. A bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd. 21Ond os byddi di wedi ei rybuddio fe i beidio pechu, ac yntau wedi gwrando arnat ti, bydd e'n cael byw, a byddi di hefyd wedi achub dy hun.”

Eseciel yn methu siarad

Copyright information for CYM