Hosea 2
1“Byddi'n galw dy frawd yn Ammi (sef ‛fy mhobl‛), a dy chwaer yn Rwhama (sef ‛trugaredd‛)!Israel y Wraig Anffyddlon
2Plediwch yn daer gyda'ch mam(Dydy hi ddim yn wraig i mi,
a dw i ddim yn ŵr iddi hi.)
Plediwch arni i stopio peintio ei hwyneb fel putain,
a dangos ei bronnau i bawb.
3Neu bydda i'n rhwygo ei dillad oddi arni –
bydd hi'n hollol noeth, fel ar ddiwrnod ei geni.
Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch.
Bydd fel tir sych;
a bydd hi'n marw o syched.
4Fydda i'n dangos dim trugaredd at ei phlant,
am mai plant siawns ydyn nhw, am iddi buteinio.
5Hwren anffyddlon ydy eu mam nhw;
mae hi wedi ymddwyn yn warthus.
Roedd hi'n dweud:
‘Dw i'n mynd at fy nghariadon.
Maen nhw'n rhoi bwyd a dŵr i mi,
gwlân, llin, olew, a diodydd.’
Yr Arglwydd yn ei disgyblu
6Felly, dw i am gau ei ffordd gyda draina chodi wal i'w rhwystro,
fel ei bod hi'n colli ei ffordd.
7Wedyn, pan fydd hi'n rhedeg ar ôl ei chariadon,
bydd hi'n methu eu cyrraedd nhw.
Bydd hi'n chwilio, ond yn methu ffeindio nhw.
Bydd hi'n dweud wedyn,
‘Dw i am fynd yn ôl at fy ngŵr.
Roedd pethau lot gwell arna i bryd hynny.’
8“Dydy hi ddim yn barod i gydnabod mai fi sy'n rhoi'r ŷd a'r sudd grawnwin a'r olew olewydd iddi. A fi wnaeth roi'r holl arian a'r aur iddi hefyd – ond aeth ei phobl a rhoi'r cwbl i Baal! ▼
▼2:8 Baal Duw ffrwythlondeb Canaan.
9Felly, dw i'n mynd i gymryd yr ŷd yn ôl,a'r cynhaeaf grawnwin hefyd.
Dw i'n mynd i gymryd yn ôl y gwlân a'r llin
oeddwn i wedi ei roi iddi i'w gwisgo.
10Yn fuan iawn, dw i'n mynd i wneud iddi
sefyll yn noethlymun o flaen ei chariadon.
Fydd neb yn gallu ei helpu hi!
11Bydd ei holl bartïo ar ben:
ei gwyliau crefyddol, ei dathliadau misol a'i Sabothau wythnosol –
pob un parti!
12Bydda i'n difetha ei gwinllannoedd a'i choed ffigys –
roedd hi'n honni mai tâl gan ei chariadon oedd y cwbl.
Bydda i'n troi'r cwbl yn ddrysni llawn chwyn wedi tyfu'n wyllt;
dim ond anifeiliaid gwylltion fydd yn bwyta eu ffrwyth.
13Bydda i'n ei chosbi am bob diwrnod y buodd hi'n
llosgi arogldarth i ddelwau o Baal.
Roedd hi'n gwisgo'i chlustdlysau a'i gemwaith
i fynd ar ôl ei chariadon, ond yn fy anghofio i!”
—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
Cariad Duw at ei bobl
14“Felly, dw i'n mynd i'w denu hi yn ôl ata i.Dw i'n mynd i'w harwain hi yn ôl i'r anialwch
a siarad yn rhamantus gyda hi eto.
15Wedyn, dw i'n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi,
a troi Dyffryn y Drychineb ▼
▼2:15 Dyffryn y Drychineb neu Dyffryn Achor. Mae'r gair Hebraeg Achor (‛trychineb‛) yn swnio fel Achan (gw. Josua 7:24-26).
yn Giât GobaithBydd hi'n canu fel pan oedd hi'n ifanc,
pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft.
16Bryd hynny,” meddai'r Arglwydd,
“byddi'n galw fi, ‛fy ngŵr‛;
fyddi di byth eto'n fy ngalw i, ‛fy meistr‛. ▼
▼2:16 ‛fy ngŵr‛ … ‛fy meistr‛ Yn Hebraeg ystyr enw y duw Baal ydy ‛meistr‛. Ond mae'r Arglwydd yn addo perthynas bersonol ddofn gyda'i bobl (fel gŵr a gwraig sy'n caru ei gilydd).
17Bydda i'n gwneud i ti anghofio enwau'r delwau o Baal;
fyddi di ddim yn eu defnyddio byth eto.
18Bryd hynny, bydda i'n gwneud ymrwymiad
gyda'r anifeiliaid gwyllt, yr adar, a'r holl bryfed ar y ddaear
Bydda i'n cael gwared ag arfau rhyfel – y bwa saeth a'r cleddyf;
A bydd fy mhobl yn byw'n saff a dibryder.
19Bydda i'n dy gymryd di'n wraig i mi am byth.
Bydda i'n dy drin di'n deg, yn gyfiawn,
ac yn dangos cariad a charedigrwydd atat.
20Bydda i'n ffyddlon i ti bob amser,
a byddi di'n fy nabod i, yr Arglwydd.
21Bryd hynny, bydda i'n ymateb i ti'n frwd,”
—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
“Bydda i'n rhoi cymylau i'r awyr, a bydd yr awyr yn rhoi glaw i'r tir.
22Bydd y tir yn rhoi dŵr i'r ŷd, y grawnwin a'r olewydd.
A bydd ffrwyth y tir ar gael i Jesreel. ▼
▼2:22 Jesreel Ystyr yr enw ydy ‛Duw yn hau/plannu‛ (gw. adn.23). Ond mae yma chwarae ar eiriau hefyd. Mae'r enw Jesreel yn swnio'n debyg iawn yn yr Hebraeg i'r enw Israel.
23Bydda i'n ei phlannu i mi fy hun yn y tir.
Bydd ‛heb drugaredd‛ yn cael profi trugaredd.
Bydda i'n dweud wrth ‛nid fy mhobl‛, ‛dych chi'n bobl i mi‛.
A byddan nhw'n ateb, ‘Ti ydy'n Duw ni!’.” e
Copyright information for
CYM