1 Kings 12:28-32

28Ar ôl trafod gyda'i gynghorwyr, dyma fe'n gwneud dau darw ifanc o aur, a dweud wrth y bobl, “Mae'n ormod o drafferth i chi fynd i fyny i Jerwsalem i addoli.

Bobl Israel, dyma'r duwiau
wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft.”

29A dyma fe'n gosod un tarw aur yn Bethel, a'r llall yn Dan. 30Gwnaeth i Israel bechu yn ofnadwy. Aeth y bobl ag un ohonyn nhw mewn prosesiwn yr holl ffordd i Dan!

31Dyma fe'n adeiladu temlau lle roedd allorau lleol, a gwneud pob math o bobl yn offeiriaid – pobl oedd ddim o lwyth Lefi. 32A dyma fe'n sefydlu Gŵyl ar y pymthegfed diwrnod o'r wythfed mis, fel yr un yn Jwda. Yna dyma fe'n mynd at yr allor yn Bethel i aberthu anifeiliaid i'r teirw roedd wedi eu gwneud. Yn Bethel hefyd dyma fe'n apwyntio offeiriaid i'r allorau roedd e wedi eu codi.

Hosea 8:5-6

5Dw i wedi gwrthod tarw Samaria. a
Dw i wedi digio'n lân gyda nhw!
Fydd hi ddim yn hir nes i mi eu cosbi nhw,
6er mai pobl Israel ydyn nhw!
Cafodd y peth hwnnw ei greu gan grefftwr –
nid Duw ydy e!
Felly, bydd tarw Samaria
yn cael ei falu'n ddarnau mân!

Hosea 10:5

5Bydd pobl Samaria yn ofni
beth ddigwydd i lo Beth-afen.
10:5 Beth-afen gw. y nodyn yn 4:15.

Bydd y bobl yn galaru
gyda'r offeiriaid ffals a fu'n dathlu,
am fod ei ysblander wedi ei gipio,

Amos 7:10-17

10Roedd Amaseia, prif-offeiriad Bethel, wedi anfon y neges yma at Jeroboam, brenin Israel: “Mae Amos yn cynllwynio yn dy erbyn di, a hynny ar dir Israel. All y wlad ddim dioddef dim mwy o'r pethau mae e'n ei ddweud. 11Achos mae e'n dweud pethau fel yma: ‘Bydd Jeroboam yn cael ei ladd mewn rhyfel, a bydd pobl Israel yn cael eu cymryd i ffwrdd o'u gwlad yn gaethion.’”

12Roedd Amaseia hefyd wedi dweud wrth Amos, “Gwell i ti fynd o ma, ti a dy weledigaethau! Dianc yn ôl i wlad Jwda! Dos i ennill dy fywoliaeth yno, a phroffwyda yno! 13Paid byth proffwydo yn Bethel eto, achos dyma lle mae'r brenin yn addoli, yn y cysegr brenhinol.”

14A dyma Amos yn ateb Amaseia: “Dw i ddim yn broffwyd proffesiynol, nac yn perthyn i urdd o broffwydi. Bridio anifeiliaid a thyfu coed ffigys oeddwn i'n ei wneud. 15Ond dyma'r Arglwydd yn fy nghymryd i ffwrdd o ffermio defaid, ac yn dweud wrtho i, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’ 16Felly, gwrando, dyma neges yr Arglwydd. Ti'n dweud wrtho i am stopio proffwydo i bobl Israel a phregethu i bobl Isaac. 17Ond dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

‘Bydd dy wraig di yn gwerthu ei chorff fel putain yn y strydoedd,
a bydd dy feibion a dy ferched yn cael eu lladd yn y rhyfel.
Bydd dy dir di'n cael ei rannu i eraill,
a byddi di'n marw mewn gwlad estron.
Achos bydd Israel yn cael ei chymryd i ffwrdd yn gaeth o'i thir.’”
Copyright information for CYM