‏ 2 Kings 14:23-29

23Pan oedd Amaseia fab Joas, wedi bod yn frenin Jwda am un deg pump o flynyddoedd, dyma Jeroboam fab Jehoas yn dod yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am bedwar deg un o flynyddoedd. 24Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr Arglwydd, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. 25Ennillodd dir yn ôl i Israel nes bod y ffin yn mynd o Fwlch Chamath yn y gogledd i'r Môr Marw
14:25 Hebraeg, “Môr yr Araba”
yn y de. Roedd yr Arglwydd, Duw Israel, wedi dweud y byddai'n gwneud hynny trwy ei was Jona fab Amittai, y proffwyd o Gath-heffer.
26Roedd yr Arglwydd wedi gweld bod pobl Israel yn cael eu cam-drin yn erchyll. Doedd neb o gwbl ar ôl, caeth na rhydd, i'w helpu. 27Ond doedd yr Arglwydd ddim am gael gwared ag Israel yn llwyr, felly dyma fe'n anfon Jeroboam fab Jehoas i'w hachub nhw.

28Mae gweddill hanes Jeroboam, y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol yn adennill rheolaeth dros drefi Damascus a Chamath, i gyd i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. 29Bu farw Jeroboam a chafodd ei gladdu gyda brenhinoedd Israel. A dyma Sechareia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

‏ 2 Kings 15:1-7

Wseia, brenin Jwda

(2 Cronicl 26:1-23)

1Pan oedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ddau ddeg saith o flynyddoedd, dyma Wseia,
15:1 Hebraeg, “Asareia” – enw arall ar Wseia. (A'r un fath drwy'r bennod.)
mab Amaseia, yn dod yn frenin ar Jwda.
2Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Jecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem. 3Fel ei dad Amaseia roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r Arglwydd. 4Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. 5Dyma'r Arglwydd yn ei daro'n wael – bu'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb am weddill ei oes. Jotham, mab y brenin, oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad ar y pryd.

6Mae gweddill hanes Wseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 7Pan fuodd Wseia farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. Yna daeth Jotham, ei fab, yn frenin yn ei le.

Sechareia, brenin Israel

‏ 2 Chronicles 26

Wseia yn frenin Jwda

(2 Brenhinoedd 14:21-22; 15:1-7)

1Dyma bobl Jwda yn cymryd Wseia, oedd yn un deg chwech mlwydd oed, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia. 2Adeiladodd Wseia dref Elat a'i hadfer i Jwda ar ôl i'r brenin Amaseia farw. 3Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Jecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem. 4Fel ei dad Amaseia roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r Arglwydd.

5Sechareia oedd cynghorydd ysbrydol Wseia, a tra roedd Sechareia'n fyw roedd Wseia'n dilyn yr Arglwydd, ac roedd Duw yn gwneud iddo lwyddo. 6Aeth i ryfel yn erbyn y Philistiaid, a chwalu waliau Gath, Iabne ac Ashdod. Wedyn adeiladodd drefi yn ardal Ashdod ac ar hyd a lled tiriogaeth y Philistiaid. 7Roedd Duw wedi ei helpu yn ei ymgyrchoedd yn erbyn y Philistiaid, yr Arabiaid oedd yn byw yn Gwr-baal, a'r Mewniaid. 8Roedd yr Ammoniaid yn talu trethi iddo hefyd, a daeth yn enwog hyd at ffiniau gwlad yr Aifft am ei fod mor gryf.

9Dyma Wseia'n adeiladu a chryfhau tyrau amddiffynnol yn Jerwsalem, wrth Giât y Gornel, Giât y Dyffryn a lle mae'r ongl yn y wal. 10Adeiladodd dyrau amddiffynnol a chloddio pydewau yn yr anialwch hefyd, gan fod ganddo lawer o anifeiliaid yn Seffela ac ar y gwastadedd. Roedd yn hoff iawn o ffermio. Roedd ganddo weithiwr yn trin y tir a gofalu am y gwinllannoedd ar y bryniau ac yn Carmel.

11Roedd gan Wseia fyddin o filwyr yn barod i ryfela. Roedden nhw wedi cael eu trefnu yn gatrawdau gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia oedd yn swyddog yn y fyddin. Chananeia, un o swyddogion y brenin, oedd yn goruchwylio'r cyfan. 12Roedd yna 2,600 o bennau teuluoedd yn arwain catrawd o filwyr yn y fyddin. 13Roedd byddin o 370,500 o filwyr ganddyn nhw, yn barod i amddiffyn y brenin yn erbyn ei elynion. 14Dyma Wseia'n paratoi digon o darianau, gwaywffyn, helmedau, arfwisg, bwâu a ffyn tafl a cherrig i'r fyddin gyfan. 15Dyma fe'n cael pobl i ddyfeisio peiriannau rhyfel a'u gosod ar dyrau a chorneli waliau Jerwsalem. Roedd y rhain yn gallu taflu saethau a cherrig mawr. Roedd Duw wedi helpu Wseia a'i wneud yn arweinydd pwerus iawn, ac roedd yn enwog yn bell ac agos.

Pechod Wseia a'i gosb

16Ond wrth fynd yn gryf dyma fe'n troi'n falch. Ac aeth ei falchder yn drech nag e. Bu'n anffyddlon i'r Arglwydd ei Dduw. Aeth i mewn i deml yr Arglwydd a llosgi arogldarth ar allor yr arogldarth. 17Dyma Asareia ac wyth deg o offeiriaid dewr yn mynd ar ei ôl. 18Dyma nhw'n herio Wseia a dweud wrtho, “Nid dy le di, Wseia, ydy llosgi arogldarth i'r Arglwydd. Cyfrifoldeb yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, ydy gwneud hynny. Maen nhw wedi cael eu neilltuo'n arbennig i'r gwaith. Dos allan o'r deml. Ti wedi bod yn anffyddlon, a fydd yr Arglwydd ddim yn dy anrhydeddu di am hyn.” 19Roedd Wseia wedi gwylltio. Roedd ganddo lestr o arogldarth yn ei law, ac wrth iddo arthio a gweiddi ar yr offeiriaid dyma glefyd heintus yn torri allan ar ei dalcen. Digwyddodd hyn o flaen llygaid yr offeiriaid, yn y deml wrth ymyl allor yr arogldarth. 20Pan welodd Asareia'r archoffeiriad, a'r offeiriaid eraill, y dolur ar ei dalcen, dyma nhw'n ei hel allan ar frys. Yn wir roedd e ei hun yn brysio i fynd allan gan mai'r Arglwydd oedd wedi ei daro'n wael. 21Bu Wseia'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb arall, a doedd e ddim yn cael mynd i deml yr Arglwydd. Ei fab Jotham oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad bryd hynny.

22Mae gweddill hanes Wseia, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu gan y proffwyd Eseia fab Amos. 23Pan fu farw, cafodd Wseia ei gladdu heb fod yn bell o ble claddwyd ei hynafiaid, ond mewn mynwent arall oedd yn perthyn i'r brenhinoedd. (Cafodd ei osod ar wahân am ei fod yn dioddef o glefyd heintus ar y croen.) A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.

Copyright information for CYM