Genesis 27:34-41

34Pan glywodd Esau beth ddwedodd ei dad, dyma fe'n sgrechian gweiddi'n chwerw. “Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” meddai. 35Ond meddai Isaac, “Mae dy frawd wedi fy nhwyllo i, a dwyn dy fendith.” 36“Mae'r enw Jacob
27:36 h.y. gafael yn sawdl, neu, disodli.
yn ei ffitio i'r dim!” meddai Esau. “Dyma'r ail waith iddo fy nisodli. Mae wedi cymryd fy hawliau fel y mab hynaf oddi arna i, a nawr mae e wedi dwyn fy mendith i.” Ac meddai wrth ei dad, “Wyt ti ddim wedi cadw un fendith i mi?”
37Ond dyma Isaac yn ei ateb, “Dw i wedi ei wneud yn feistr arnat ti. Bydd ei berthnasau i gyd yn ei wasanaethu. Bydd ganddo ddigon o ŷd a sudd grawnwin i'w gynnal. Felly beth sydd ar ôl i mi ei roi i ti, fy mab?” 38“Ai dim ond un fendith sydd gen ti, dad? Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” A dyma Esau'n dechrau crïo'n uchel.

39Felly dyma Isaac, ei dad, yn dweud fel hyn:

“Byddi di'n byw heb gael cnydau da o'r tir,
a heb wlith o'r awyr.
40Byddi di'n byw drwy ymladd â'r cleddyf,
ac yn gwasanaethu dy frawd.
Ond byddi di'n gwrthryfela,
27:40 ystyr yr Hebraeg yn aneglur

ac yn torri'r iau oedd wedi ei rhoi ar dy ysgwyddau.”

Jacob yn dianc i Padan-aram

41Roedd Esau yn casáu Jacob o achos y fendith roedd ei dad wedi ei rhoi iddo. “Bydd dad wedi marw cyn bo hir,” meddai'n breifat. “A dw i'n mynd i ladd Jacob wedyn.”
Copyright information for CYM