Isaiah 63:1-6

1Pwy ydy hwn sy'n dod o Edom –
o Bosra
63:1 Bosra Prifddinas Edom.
,
b a'i ddillad yn goch?
Pwy ydy'r un, yn ei wisgoedd brenhinol,
sy'n martsio'n hyderus a diflino.
“Fi ydy e, sy'n cyhoeddi cyfiawnder;
yr un sy'n gallu achub.”
2Pam mae dy ddillad yn goch?
Maen nhw fel dillad un sy'n sathru grawnwin.
3“Dw i wedi sathru'r grawnwin fy hun;
doedd neb o gwbl gyda fi.
Sethrais nhw yn fy llid,
a'i gwasgu dan draed yn fy nicter,
nes i'w gwaed nhw sblasio ar fy nillad;
dw i wedi staenio fy nillad i gyd.
4Roedd y diwrnod i ddial ar fy meddwl,
a'r flwyddyn i ollwng yn rhydd wedi dod.
5Pan edrychais, doedd neb yno i helpu;
ron i'n synnu fod neb yno i roi cymorth.
Felly dyma fi'n mynd ati i achub,
a'm dicter yn fy ngyrru ymlaen. c
6Sethrais genhedloedd yn fy llid,
a'u meddwi nhw gyda fy nig,
a thywallt eu gwaed ar lawr.”

Gweddi ac addoliad

Jeremiah 49:7-22

7Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud am Edom:

“Oes rhywun doeth ar ôl yn Teman?
49:7 Teman Tref bwysig yng ngogledd Edom, wedi ei henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11. Weithiau yn enw ar ogledd Edom i gyd.

Oes neb call ar ôl i roi cyngor?
Ydy eu doethineb nhw wedi diflannu?
8Ffowch! Trowch yn ôl!
Ewch i guddio'n bell, bobl Dedan!
49:8 Dedan Enw llwyth oedd yn byw yn ne-ddwyrain Edom.

Dw i'n dod â dinistr ar ddisgynyddion Esau f
mae'n amser i mi eu cosbi.
9Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,
oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa? g
Petai lladron yn dod yn y nos,
bydden nhw ond yn dwyn beth oedden nhw eisiau! h
10Ond dw i'n mynd i gymryd popeth oddi ar bobl Esau.
Bydda i'n dod o hyd iddyn nhw;
fyddan nhw ddim yn gallu cuddio.
Bydd eu plant, eu perthnasau, a'u cymdogion i gyd
yn cael eu dinistrio. Fydd neb ar ôl!
11Gadael dy blant amddifad gyda mi,
gwna i ofalu amdanyn nhw.
Bydd dy weddwon hefyd yn gallu dibynnu arna i.”

12Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: “Os oes rhaid i bobl ddiniwed ddiodde, wyt ti'n meddwl y byddi di'n dianc? Na! Bydd rhaid i tithau yfed o gwpan barn. 13Dw i wedi addo ar lw,” meddai'r Arglwydd. “Bydd Bosra
49:13 Bosra Prifddinas Edom.
yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd yn destun sbort. Bydd yn cael ei dinistrio'n llwyr, a'i gwneud yn enghraifft o bobl wedi eu melltithio. Bydd eu trefi yn cael eu gadael yn adfeilion am byth.”

Jeremeia:
14“Ces i neges gan yr Arglwydd,
pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud,
‘Dowch at eich gilydd i ymosod arni hi.
Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!’”
Yr Arglwydd:
15“Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;
bydd pawb yn cael hwyl ar dy ben.
16Mae dy allu i ddychryn pobl
a dy falchder wedi dy dwyllo di.
Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,
yn byw ar ben y mynydd –
ond hyd yn oed petaet ti'n gwneud dy nyth mor uchel â'r eryr,
bydda i'n dy dynnu di i lawr.” j

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

17“Bydd Edom yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr. 18Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto,”—yr Arglwydd sy'n dweud hyn. 19“Bydda i'n gyrru pobl Edom o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis y meheryn gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?”

20Dyma gynllun yr Arglwydd yn erbyn Edom. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i bobl Teman.

“Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd.
Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw.
21Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed am eu cwymp.
Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed wrth y Môr Coch.
49:21 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.

22Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn codi i'r awyr,
yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Bosra.
Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Edom wedi dychryn,
fel gwraig ar fin cael babi!”

Neges am Damascus

Ezekiel 25:12-14

12“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Edom yn euog. Am eu bod wedi dal ati i ddial mor gas ar Jwda, maen nhw'n euog.’ 13Ie, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro Edom yn galed, a lladd pawb sy'n byw yno, pobl ac anifeiliaid. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. Bydd pawb yn cael eu lladd yn y rhyfel, yr holl ffordd o Teman
25:13 Teman Tref bwysig yng ngogledd Edom, wedi ei henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11.
i Dedan yn y de.
14Bydda i'n defnyddio fy mhobl Israel i ddial ar Edom. Bydd y ffordd fyddan nhw'n delio gydag Edom yn dangos faint dw i wedi gwylltio, a bydd pobl Edom yn gwybod mai fi sy'n dial arnyn nhw, meddai'r Meistr, yr Arglwydd.’”

Philistia

Ezekiel 35

Proffwydoliaeth yn erbyn Edom

1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Edom
35:2 Edom Hebraeg, “Mynydd Seir”, sef enw arall ar Edom.
, a proffwydo yn ei herbyn.
3Dywed wrthi, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud:

Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Edom.
Dw i'n mynd i dy daro di'n galed,
a dy droi di yn anialwch diffaith!
4Bydda i'n gwneud dy drefi'n adfeilion.
Byddi fel anialwch!
A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.

5“‘Rwyt ti bob amser wedi casáu pobl Israel. Roeddet ti'n ymosod arnyn nhw gyda'r cleddyf pan oedden nhw mewn trafferthion, pan o'n i eisoes wedi eu cosbi nhw. 6Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, gan dy fod ti mor hoff o dywallt gwaed mae lladdfa ar ei ffordd i ti! 7Bydda i'n troi Edom yn anialwch diffaith. Bydd hyd yn oed y rhai sy'n pasio trwodd yn cael eu lladd. 8Bydd cyrff marw yn gorchuddio dy fynyddoedd. Bydd pobl wedi eu lladd gan y cleddyf yn gorwedd ar y bryniau, yn y dyffrynnoedd ac ym mhob ceunant. 9Byddi'n adfeilion am byth. Fydd neb yn byw ynot ti. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.

10“‘Roeddet ti'n dweud, “Bydd y ddwy wlad yna yn perthyn i mi! Bydda i'n eu cymryd nhw,” – er bod yr Arglwydd yna. 11Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr Arglwydd, ‘dw i'n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti'n haeddu, am fod mor gas a chenfigennus a sbeitlyd. Bydda i'n dangos pwy ydw i iddyn nhw, drwy dy gosbi di. 12Byddi'n gwybod wedyn fy mod i, yr Arglwydd, wedi clywed yr holl bethau sarhaus rwyt ti wedi bod yn eu dweud am fynyddoedd Israel. “Maen nhw wedi eu dinistrio,” meddet ti, “Maen nhw yna ar blât i ni!” 13Roeddet ti'n brolio dy hun a ddim yn stopio gwneud sbort ar fy mhen i – ydw, dw i wedi clywed y cwbl!’ 14Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydd y byd i gyd yn dathlu pan fydda i'n dy droi di'n adfeilion. 15Pan gafodd gwlad Israel ei dinistrio roeddet ti'n dathlu. Ond nawr mae'r un peth yn mynd i ddigwydd i ti! Bydd Edom, ie pawb drwy'r wlad i gyd, yn cael eu dinistrio! Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.’”

Amos 1:11-12

11Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Mae Edom wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.
Maen nhw wedi ymosod ar eu brodyr
1:11 eu brodyr Roedd pobl Israel yn ddisgynyddion i Jacob, a phobl Edom yn ddisgynyddion i Esau, brawd Jacob.
gyda'r cleddyf
a dangos dim trugaredd atyn nhw.
Am iddyn nhw ddal ati i ymosod yn wyllt
heb stopio'r trais o gwbl,
12dw i'n mynd i anfon tân i losgi Teman,
a dinistrio caerau amddiffynnol Bosra.”
1:12 Teman a Bosra sef Edom; roedd Teman yn dref bwysig yng ngogledd Edom (wedi ei henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11). Bosra oedd prifddinas gogledd Edom, tua 30 milltir i'r de-ddwyrain o'r Môr Marw.

Ammon p

Obadiah 1-14

1Gweledigaeth Obadeia.

Dyma beth mae'r Meistr, yr Arglwydd, wedi ei ddweud am Edom.
1:1 Edom Roedd pobl Edom yn ddisgynyddion i Esau, brawd Jacob
Cawson ni neges gan yr Arglwydd, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!”

Bydd Duw yn cosbi Edom r

2Mae'r Arglwydd yn dweud wrth Edom
1:2 Mae'r … Edom Ddim yn yr Hebraeg, ond wedi eu hychwanegu i wneud y sefyllfa'n glir (gw. diwedd adn.4)
:
“Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;
byddan nhw'n cael cymaint o hwyl ar dy ben.
3Mae dy falchder wedi dy dwyllo di!
Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,
ac mae dy gartre mor uchel nes dy fod yn meddwl,
‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o'r fan yma!’
1:3 Ti'n byw yn saff … o'r fan yma! Roedd Sela, prifddinas Edom wedi ei hadeiladu ar lwyfandir uchel Wm el-Biara, gyda clogwyni serth ar dair ochr iddi.

4Ond hyd yn oed petaet ti'n gallu codi mor uchel â'r eryr,
a gosod dy nyth yng nghanol y sêr,
bydda i'n dy dynnu di i lawr!” u

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
5“Petai lladron yn dod atat ti,
neu ysbeilwyr yn y nos,
bydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau!
Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,
oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa? v
Ond byddi di'n cael dy ddinistrio'n llwyr!
6Bydd pobl Esau
1:6 pobl Esau Disgynyddion Esau (brawd Jacob) oedd pobl Edom – gw. Genesis 36:1,8,19
yn colli popeth;
bydd y trysorau gasglon nhw wedi eu dwyn!
7Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo;
cei dy yrru at dy ffiniau.
Mae dy ‛helpwyr‛ wedi cael y llaw uchaf arnat ti,
a'r ‛ffrindiau‛ oedd yn gwledda gyda ti
wedi gosod trap heb i ti wybod.”
8“Bryd hynny” meddai'r Arglwydd,
“bydda i'n difa rhai doeth Edom,
a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau.
9Bydd dy filwyr dewr wedi dychryn, Teman;
1:9 Teman Tref bwysig yng ngogledd Edom, wedi ei henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11.

fydd neb yn goroesi ar fynydd Esau.

Y drwg wnaeth Edom

O achos y lladdfa,
10a'th drais yn erbyn Jacob dy frawd,
1:10 Jacob Cyfeiriad at bobl Israel – gw. Genesis 25-29; 32-33; Deuteronomium 23:7

bydd cywilydd yn dy orchuddio,
a byddi'n cael dy ddinistrio am byth.
11Pan oeddet ti'n sefyll o'r neilltu
tra roedd dieithriaid yn dwyn ei heiddo;
pan oedd byddin estron yn mynd trwy ei giatiau
a gamblo am gyfoeth Jerwsalem,
doeddet ti ddim gwell nag un ohonyn nhw!
1:11 un ohonyn nhw sef byddin Babilon pan wnaethon nhw goncro Jerwsalem yn 587 CC

12Sut allet ti syllu a mwynhau'r
drychineb ddaeth i ran dy frawd?
Sut allet ti ddathlu wrth weld pobl Jwda
ar ddiwrnod eu difa? aa
Sut allet ti chwerthin
ar ddiwrnod y dioddef?
13Sut allet ti fynd at giatiau fy mhobl
ar ddiwrnod eu trychineb?
Syllu a mwynhau eu trallod
ar ddiwrnod eu trychineb.
Sut allet ti ddwyn eu heiddo
ar ddiwrnod eu trychineb?
14Sut allet ti sefyll ar y groesffordd
ac ymosod ar y ffoaduriaid!
Sut allet ti eu rhoi yn llaw'r gelyn
ar ddiwrnod y dioddef?

Barn Duw a buddugoliaeth Israel

Malachi 1:2-5

2“Dw i wedi'ch caru chi,” meddai'r Arglwydd.
Ond dych chi'n gofyn, “Sut wyt ti wedi dangos dy gariad aton ni?”
Ac mae'r Arglwydd yn ateb,
“Onid oedd Esau'n frawd i Jacob?
Dw i wedi caru Jacob
3ond gwrthod Esau
1:3 Esau Disgynyddion Esau oedd pobl Edom.
.
Dw i wedi gwneud ei fryniau yn ddiffeithwch;
a'i dir yn gartre i siacaliaid yr anialwch.”
4Mae Edom yn dweud, “Mae'n trefi wedi eu chwalu,
ond gallwn ailadeiladu'r adfeilion.”
Ond dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud:
“Gallan nhw adeiladu, ond bydda i yn bwrw i lawr!
Byddan nhw'n cael eu galw yn wlad ddrwg,
ac yn bobl mae'r Arglwydd wedi digio hefo nhw am byth.”
5Cewch weld y peth drosoch eich hunain, a byddwch yn dweud,
“Yr Arglwydd sy'n rheoli, hyd yn oed y tu allan i ffiniau Israel!”

Yr offeiriaid ddim yn parchu Duw

Copyright information for CYM