‏ 1 John 5

Credu ym Mab Duw

1Mae pawb sy'n credu mai Iesu ydy'r Meseia wedi cael eu geni'n blant i Dduw, ac mae pawb sy'n caru'r Tad yn caru ei blentyn hefyd. 2Dŷn ni'n gwybod ein bod yn caru plant Duw os ydyn ni'n caru Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud. 3Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd, a 4am fod plant Duw yn ennill y frwydr yn erbyn y byd. Credu sy'n rhoi'r fuddugoliaeth yna i ni! 5Pwy sy'n llwyddo i ennill y frwydr yn erbyn y byd? Dim ond y rhai sy'n credu mai Iesu ydy Mab Duw.

6Iesu Grist – daeth yn amlwg pwy oedd pan gafodd ei fedyddio â dŵr, a phan gollodd ei waed ar y groes. Nid dim ond y dŵr, ond y dŵr a'r gwaed. Ac mae'r Ysbryd hefyd yn tystio i ni fod hyn yn wir, am mai'r Ysbryd ydy'r gwirionedd. 7Felly dyna dri sy'n rhoi tystiolaeth: 8yr Ysbryd, dŵr y bedydd a'r gwaed ar y groes; ac mae'r tri yn cytuno â'i gilydd. 9Dŷn ni'n derbyn tystiolaeth pobl, ond mae tystiolaeth Duw cymaint gwell! Dyma'r dystiolaeth mae Duw wedi ei roi am ei Fab! 10Mae pawb sy'n credu ym Mab Duw yn gwybod fod y dystiolaeth yn wir. Ond mae'r rhai sy'n gwrthod credu Duw yn gwneud Duw ei hun yn gelwyddog, am eu bod wedi gwrthod credu beth mae Duw wedi ei dystio am ei Fab. 11A dyma'r dystiolaeth: mae Duw wedi rhoi bywyd tragwyddol i ni, ac mae'r bywyd hwn i'w gael yn ei Fab. b 12Felly os ydy'r Mab gan rywun, mae'r bywyd ganddo; ond does dim bywyd gan y rhai dydy'r Mab ddim ganddyn nhw.

I gloi

13Dw i wedi ysgrifennu hyn i gyd atoch chi sy'n credu ym Mab Duw er mwyn i chi wybod fod gynnoch chi fywyd tragwyddol. 14Dyma pa mor hyderus gallwn ni fod wrth agosáu at Dduw: mae e'n gwrando arnon ni os byddwn ni'n gofyn am unrhyw beth sy'n gyson â'i fwriad e. 15Ac os ydyn ni'n gwybod ei fod e'n gwrando arnon ni, dŷn ni'n gallu bod yn siŵr y byddwn yn derbyn beth bynnag byddwn ni'n gofyn amdano.

16Os gwelwch chi Gristion arall yn gwneud rhywbeth sy'n amlwg yn bechod ond sydd ddim yn bechod marwol, dylech chi weddïo drostyn nhw, a bydd Duw yn rhoi bywyd iddyn nhw. Sôn ydw i am y rhai hynny sy'n pechu, ond dydy eu pechod nhw ddim yn bechod marwol. Mae'r fath beth yn bod a phechod marwol. Dw i ddim yn dweud wrthoch chi am weddïo ynglŷn â hwnnw. 17Mae gwneud unrhyw beth o'i le yn bechod, ond dydy pob pechod ddim yn bechod marwol.

18Dŷn ni'n gwybod bod y rhai sydd wedi eu geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu. Mae Mab Duw yn eu cadw nhw'n saff, a dydy'r Un drwg ddim yn gallu gwneud niwed iddyn nhw. 19Dŷn ni'n gwybod ein bod ni'n blant i Dduw, ond mae'r byd o'n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg. 20Ond dŷn ni hefyd yn gwybod fod Mab Duw wedi dod, ac mae wedi'n galluogi ni i ddeall a dod i nabod yr un gwir Dduw. A dŷn ni wedi'n huno â'r gwir Dduw am ein bod ni wedi'n huno â'i Fab e, Iesu Grist. Fe ydy'r unig wir Dduw, a fe ydy'r bywyd tragwyddol.

21Blant annwyl, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sy'n cymryd lle Duw yn eich bywydau chi.
5:21 unrhyw beth … bywydau chi: Groeg, “eilun-dduwiau”.

Copyright information for CYM