‏ Exodus 27

Yr Allor

(Exodus 38:1-7)

1“Mae'r allor i gael ei gwneud o goed acasia. Mae hi i fod yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder. 2Mae cyrn i fod ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna rwyt i'w gorchuddio gyda pres. 3Mae'r offer i gyd i'w gwneud o bres hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân. 4Hefyd gratin, sef rhwyll wifrog o bres gyda pedair cylch bres ar y corneli. 5Mae i'w gosod o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr. 6Yna gwneud polion i'r allor, allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda pres. 7Mae'r polion i gael eu gwthio drwy'r cylchoedd fel bod polyn bob ochr i'r allor i'w chario hi. 8Dylai'r allor gael ei gwneud gyda planciau pren, fel ei bod yn wag y tu mewn. Dylid ei gwneud yr union fel cafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.

Yr Iard o gwmpas y Tabernacl

(Exodus 38:9-20)

9“Yna rhaid gwneud iard y Tabernacl gyda llenni o'i chwmpas wedi eu gwneud o'r lliain main gorau. Ar yr ochr ddeheuol 10bydd dau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni. 11Yna'r un fath ar yr ochr ogleddol. 12Ar y cefn, yn wynebu'r gorllewin, mae lled yr iard i fod yn ddau ddeg dau metr o lenni, a deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres. 13Yna ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât. 16Yna sgrîn y giât yn naw metr o lenni yn hongian ar bedwar postyn mewn pedair soced bres. Bydd y llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau ac wedi eu brodio gydag edau las, porffor a coch. 17Bydd y polion o gwmpas yr iard i gyd wedi eu cysylltu gyda ffyn arian a bachau arian arnyn nhw, ac wedi eu gosod mewn socedi pres. 18Bydd yr iard yn bedwar deg pedwar metr o hyd ac yn ddau ddeg dau metr o led. Mae uchder y llenni i fod yn ddau pwynt dau metr, yn cael eu dal i fyny gan bolion mewn socedi pres. 19Mae offer y Tabernacl i gyd (popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y defodau), a'r pegiau, i gael eu gwneud o bres.

Cadw'r lampau'n llosgi

(Lefiticus 24:1-4)

20“Hefyd, dywed wrth bobl Israel am ddod ag olew olewydd pur i ti, fel bod y lampau wedi eu goleuo'n gyson. 21Ym mhabell presenoldeb Duw,
27:21 Hebraeg, “pabell y cyfarfod” (gw. 33:7-11), ond yma mae'n cyfeirio at y Tabernacl (gw. pennod 26)
tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth, bydd Aaron a'i feibion yn cadw'r lampau'n llosgi o flaen yr Arglwydd drwy'r nos. Dyna fydd y drefn bob amser i bobl Israel, ar hyd y cenedlaethau.

Copyright information for CYM