Ezekiel 34
Bugeiliaid Israel
1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, proffwyda yn erbyn bugeiliaid Israel (sef yr arweinwyr). Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae chi, fugeiliaid Israel, sy'n gofalu am neb ond chi'ch hunain! Oni ddylai bugeiliaid ofalu am y praidd? 3Dych chi'n yfed eu llaeth nhw, yn gwisgo eu gwlân ac yn lladd yr ŵyn gorau i'w rhostio, ond dych chi ddim yn gofalu am y praidd! 4Dych chi ddim wedi helpu'r rhai gwan, gwella y rhai sy'n sâl na rhwymo briwiau y rhai sydd wedi eu hanafu. Dych chi ddim wedi edrych am y rhai sydd wedi crwydro a mynd ar goll. Na, yn lle hynny, dych chi wedi eu rheoli nhw a'u bygwth fel meistri creulon. 5Bellach maen nhw ar chwâl am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Maen nhw'n cael eu llarpio gan anifeiliaid gwylltion. 6Mae fy nefaid wedi crwydro dros y mynyddoedd a'r bryniau uchel i gyd. Maen nhw ar wasgar drwy'r byd i gyd, a does neb yn edrych a chwilio amdanyn nhw. 7“‘Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr Arglwydd i chi: 8Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r Arglwydd, y Meistr, mae fy nefaid yn cael eu llarpio gan anifeiliaid gwylltion am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Mae'r bugeiliaid wedi gofalu amdanyn nhw eu hunain yn lle mynd i edrych am y defaid. 9Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr Arglwydd i chi: 10Mae'r Arglwydd, y Meistr, yn dweud, “Dw i yn erbyn y bugeiliaid! Dw i'n ei dal nhw'n gyfrifol, a fyddan nhw ddim yn cael gofalu am y praidd o hyn ymlaen. Na, fydd dim mwy o ofalu am neb ond nhw eu hunain! Gân nhw ddim bwyta'r defaid eto; bydda i'n achub y defaid o'i gafael nhw.”Yr Arglwydd fel y Bugail Da a
11“‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid. A dw i'n mynd i ddod o hyd iddyn nhw. 12Fel mae bugail yn chwilio am ei braidd pan maen nhw wedi mynd ar chwâl, bydda i'n dod o hyd i'm praidd i. Bydda i'n eu hachub nhw o ble bynnag aethon nhw ar y diwrnod tywyll, stormus hwnnw. 13Dw i'n mynd i ddod â nhw adre o'r gwledydd eraill; dod â nhw yn ôl i'w tir eu hunain. Dw i'n mynd i adael iddyn nhw bori ar fryniau a dyffrynnoedd Israel, ble bynnag mae porfa iddyn nhw. 14Ydw, dw i'n mynd i roi porfa iddyn nhw ar ben bryniau Israel. Byddan nhw'n gorwedd mewn porfa hyfryd ac yn bwydo ar laswellt cyfoethog bryniau Israel. 15Dw i fy hun yn mynd i ofalu amdanyn nhw, a rhoi lle iddyn nhw orwedd i lawr, meddai'r Meistr, yr Arglwydd. 16Dw i'n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll, a dod â'r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i'n mynd i rwymo briwiau y rhai sydd wedi eu hanafu, a helpu'r rhai sy'n wan. Ond bydd y rhai cyfoethog a chryf yn cael eu dinistrio. Bydda i'n gofalu eu bod nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu! 17“‘Ie, dyma beth mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi'r defaid: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall, a rhwng yr hyrddod a'r bychod geifr. 18Ydy bwydo ar borfa dda ddim digon i chi? Oes rhaid i chi sathru gweddill y borfa hefyd? Wrth yfed y dŵr glân oes rhaid i chi faeddu gweddill y dŵr drwy sathru'r mwd? 19Pam ddylai gweddill fy nefaid i orfod bwyta'r borfa sydd wedi ei sathru gynnoch chi ac yfed dŵr sydd wedi ei faeddu? 20“‘Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng y defaid tewion a'r defaid tenau. 21Dych chi'r rhai cryfion wedi gwthio'r rhai gwan o'r ffordd. Dych chi wedi eu cornio nhw a'i gyrru nhw i ffwrdd. 22Ond dw i'n mynd i achub fy nefaid. Fyddan nhw ddim yn cael eu cam-drin o hyn ymlaen. Ydw, dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall. 23“‘Dw i'n mynd i apwyntio un bugail i ofalu amdanyn nhw, sef fy ngwas Dafydd. Bydd e yn fugail arnyn nhw. 24Fi, yr Arglwydd fydd eu Duw nhw, a'm gwas Dafydd fydd pennaeth y wlad i'w harwain nhw. Fi ydy'r Arglwydd, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. 25“‘Bydda i'n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw. Bydda i'n cael gwared â'r anifeiliaid gwylltion o'r tir. Byddan nhw'n saff i aros yn yr anialwch, ac yn gallu cysgu yn y goedwig hyd yn oed. 26Bydda i'n eu bendithio nhw, a'r ardaloedd o gwmpas fy mryn hefyd. Bydd glaw yn disgyn ar yr adeg iawn; cawodydd yn dod â bendith! 27Bydd ffrwythau'n tyfu ar y coed yng nghefn gwlad, a chnydau yn tyfu o'r tir. Byddan nhw i gyd yn teimlo'n saff. Byddan nhw'n gwybod mai fi ydy'r Arglwydd pan fydda i'n torri'r iau a'u gollwng nhw'n rhydd o afael y rhai wnaeth eu caethiwo nhw, 28a fydd gwledydd eraill byth eto'n eu dinistrio nhw. Fydd anifeiliaid gwylltion ddim yn ymosod arnyn nhw. Byddan nhw'n hollol saff. Fyddan nhw'n ofni dim. 29Bydda i'n gwneud i'w cnydau nhw lwyddo, a fyddan nhw byth yn dioddef o newyn eto. A fyddan nhw byth eto'n destun sbort i'r gwledydd o'u cwmpas. 30Byddan nhw'n gwybod yn iawn wedyn fy mod i, yr Arglwydd eu Duw, gyda nhw, ac mai nhw, pobl Israel, ydy fy mhobl i.’” Dyna neges y Meistr, yr Arglwydd. 31“Chi, fy nefaid i sy'n byw ar fy mhorfa i, ydy fy mhobl i. A fi ydy'ch Duw chi,” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.
Copyright information for
CYM