Isaiah 1:17

17Dysgwch wneud da.
Brwydrwch dros gyfiawnder;
o blaid y rhai sy'n cael eu gorthrymu.
Cefnogwch hawliau plant amddifad,
a dadlau dros achos y weddw.

Isaiah 1:23

23Mae dy arweinwyr wedi gwrthryfela,
ac yn ffrindiau i ladron;
Maen nhw i gyd yn hoffi breib,
Ac yn chwilio am wobr.
Wnân nhw ddim amddiffyn plentyn amddifad
na gwrando ar achos y weddw.

Jeremiah 5:28

28wedi pesgi ac yn edrych mor dda.
Does dim pen draw i'w drygioni nhw!
Dŷn nhw ddim yn rhoi cyfiawnder i'r amddifad,
nac yn amddiffyn hawliau pobl dlawd.

Jeremiah 7:5-7

5“‘Rhaid i chi newid eich ffyrdd, dechrau trin pobl eraill yn deg, 6peidio cam-drin mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Peidio lladd pobl ddiniwed ac addoli eilun-dduwiau paganaidd. Dych chi ond yn gwneud drwg i chi'ch hunain! 7Os newidiwch chi eich ffyrdd, bydda i'n gadael i chi aros yn y wlad yma, sef y wlad rois i i'ch hynafiaid chi i'w chadw am byth bythoedd.

Jeremiah 21:12

12Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud wrth deulu brenhinol Jwda, sy'n perthyn i linach Dafydd: “Gwrandwch ar neges yr Arglwydd

‘Gwnewch yn siŵr fod pobl yn cael tegwch yn y llysoedd.
Achubwch bobl sy'n dioddef
o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw.
Os na wnewch chi, bydda i'n ddig.
Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd,
o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.

Jeremiah 22:3

3Mae'r Arglwydd yn dweud: “Gwnewch beth sy'n gyfiawn ac yn deg, ac achubwch bobl sy'n dioddef o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw. Peidiwch cam-drin a chymryd mantais o fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon. A peidiwch lladd pobl ddiniwed.

Amos 5:14-15

14Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg,
a chewch fyw!
Wedyn bydd yr Arglwydd, y Duw holl-bwerus,
gyda chi go iawn
(fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!)

15Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr Arglwydd, y Duw holl-bwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff.

Amos 5:24

24Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo,
a thegwch fel ffrwd gref sydd byth yn sychu.

Micah 6:8

8Na, mae'r Arglwydd wedi dweud beth sy'n dda,
a beth mae e eisiau gen ti:
Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser,
a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.

Bydd yr Arglwydd yn cosbi'r arweinwyr

Copyright information for CYM