2 Samuel 7:11-16

11pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i wedi rhoi heddwch i ti oddi wrth dy holl elynion.” Mae'r Arglwydd yn cyhoeddi: “Fi, yr Arglwydd, sy'n mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol!

12Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu,
bydda i'n codi un o dy linach yn dy le – mab i ti.
A bydda i'n gwneud ei deyrnas e yn gadarn.
13Bydd e yn adeiladu teml i'm anrhydeddu i;
a bydda i'n gwneud yn siŵr y bydd e'n teyrnasu am byth.
14Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi.
Pan fydd e'n gwneud drwg
bydda i'n defnyddio pobl i'w gosbi.
15Ond fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo,
yn wahanol i Saul pan wnes i ei symud e o dy ffordd di.
16Bydd dy deulu di yn teyrnasu o'm blaen i am byth.
Bydd dy orsedd yn gadarn fel y graig.”’”

Copyright information for CYM