Isaiah 11:6-9

6Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda'r oen, a
a'r llewpard yn gorwedd i lawr gyda'r myn gafr.
Bydd y llo a'r llew ifanc yn pori gyda'i gilydd,
a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw.
7Bydd y fuwch a'r arth yn pori gyda'i gilydd,
a'u rhai ifanc yn cydorwedd;
a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych.
8Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobra
a phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber.
9Fydd neb yn gwneud drwg
nac yn dinistrio dim
ar y mynydd sydd wedi ei gysegru i mi.
Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr,
bydd y ddaear yn llawn pobl sy'n nabod yr Arglwydd.

Duw yn rhyddhau ei bobl

Copyright information for CYM