Jeremiah 22:10-12

10“Paid crïo am fod y brenin wedi marw
22:10 y brenin wedi marw h.y. Joseia
.
Paid galaru ar ei ôl.
Crïa am y brenin sy'n cael ei gymryd i ffwrdd
22:10 y brenin … i ffwrdd h.y. Jehoachas (oedd hefyd yn cael ei alw yn Shalwm). Cafodd ei gymryd yn garcharor gan Pharo Necho, a bu farw yn yr Aifft (2 Brenhinoedd 23: 30-34).
.
Fydd e ddim yn dod yn ôl adre,
Gaiff e byth weld ei wlad eto.

11Achos dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud am Shalwm
22:11 Shalwm Enw arall ar Jehoachas
fab Joseia brenin Jwda, ddaeth i deyrnasu ar ôl ei dad Joseia: ‘Mae e wedi ei gymryd i ffwrdd, a fydd e byth yn dod yn ôl.
12Bydd e'n marw yn y wlad lle cafodd ei gymryd yn gaeth. Fydd e byth yn gweld y wlad yma eto.’”

Neges am Jehoiacim
22:12 Jehoiacim Cafodd Jehoiacim (brawd Jehoachas) ei wneud yn frenin ar Jwda gan Pharo Necho. Roedd yn teyrnasu o 609 i 598 CC Trodd i gefnogi Nebwchadnesar ond yna gwrthryfela yn ei erbyn, a dyna wnaeth arwain at fyddin Babilon yn ymosod ar Jerwsalem yn 597 CC pan gafodd ei fab a llawer o arweinwyr eraill Jwda eu caethgludo (gw. 2 Brenhinoedd 23:34—24:16). Roedd Jehoiacim ei hun wedi marw cyn i hyn ddigwydd (2 Brenhinoedd 24:5-7).

Copyright information for CYM