Jeremiah 22:13-19

13“Gwae yr un anghyfiawn sy'n adeiladu ei balas;
yr un sy'n trin pobl yn annheg wrth godi'r lloriau uchaf.
Mae'n gwneud i'w bobl weithio am ddim;
dydy e ddim yn talu cyflog iddyn nhw.
14Mae'n dweud wrtho'i hun,
‘Dw i'n mynd i adeiladu palas gwych,
gyda llofftydd mawr, a digon o ffenestri.
Dw i'n mynd i osod paneli o goed cedrwydd drwyddo,
a'i beintio yn goch llachar.’
15Ydy bod â mwy o baneli cedrwydd
yn dy wneud di'n well brenin?
Meddylia am dy dad.
Roedd e'n hapus os oedd ganddo fwyd a diod.
Roedd yn gwneud beth oedd yn gyfiawn ac yn deg,
ac roedd pethau'n mynd yn dda gydag e.
16Roedd yn amddiffyn hawliau pobl dlawd ac anghenus, a
ac roedd pethau'n mynd yn dda.
Onid dyna beth mae fy nabod i yn ei olygu?”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
17“Ond rwyt ti'n hunanol ac yn anonest.
Ti'n lladd pobl ddiniwed,
yn twyllo ac yn gorthrymu'r bobl.”

18Felly, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:

“Fydd neb yn galaru ar ei ôl, a dweud,
‘O, dw i mor drist, fy mrawd!
O, dw i mor drist, fy chwaer!’
Fydd neb yn dweud
‘O, druan o'n harglwydd ni’
‘O, druan o'r brenin!’
19Fydd ei angladd ddim gwell na phan mae asyn yn marw –
Bydd ei gorff yn cael ei lusgo allan o'r ddinas
a'i daflu tu allan i giatiau Jerwsalem.”

Neges am Jerwsalem

Copyright information for CYM