Jeremiah 23:5-6

5“Mae'r amser yn dod,” meddai'r Arglwydd,
“pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd,
un fydd yn gwneud beth sy'n iawn.
Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth.
Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
6Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub
a bydd Israel yn saff.
Yr enw ar y brenin yma fydd,
‘Yr Arglwydd sy'n rhoi cyfiawnder i ni.’

Copyright information for CYM