Judges 6:12-21

12Dyma fe'n gweld yr angel, a dyma'r angel yn dweud wrtho, “Mae'r Arglwydd gyda ti, filwr dewr.”

13“Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy'r Arglwydd gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr Arglwydd â ni allan o'r Aifft!’ – dyna roedden nhw'n ei ddweud. Ond bellach mae'r Arglwydd wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i'r Midianiaid ein rheoli.”

14Ond yna, dyma'r Arglwydd ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti'n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy'n dy anfon di.”

15Dyma Gideon yn dweud, “Ond meistr, sut alla i achub Israel? Dw i'n dod o'r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!”

16A dyma'r Arglwydd yn ei ateb, “Ie, ond bydda i gyda ti. Byddi di'n taro'r Midianiaid i gyd ar unwaith!”

17Yna dyma Gideon yn dweud, “Plîs wnei di roi rhyw arwydd i mi i brofi mai ti sy'n siarad hefo fi go iawn. 18Paid mynd i ffwrdd nes bydda i wedi dod yn ôl gydag offrwm i'w gyflwyno i ti.”

“Gwna i aros yma nes doi di yn ôl,” meddai'r Arglwydd.

19Felly dyma Gideon yn mynd a paratoi myn gafr ifanc. Defnyddiodd sachaid fawr o flawd i baratoi bara heb furum ynddo – tua deg cilogram. Rhoddodd y cig mewn basged a'r cawl mewn crochan a dod â'r bwyd i'w roi i'r angel, oedd o dan y goeden dderwen.

20Yna dyma'r angel yn dweud wrtho, “Gosod y cig a'r bara ar y garreg yma, yna tywallt y cawl drosto.”

Dyma Gideon yn gwneud hynny. 21Yna dyma'r angel yn cyffwrdd y cig a'r bara gyda blaen ei ffon. Ac yn sydyn dyma fflamau tân yn codi o'r garreg a llosgi'r cig a'r bara. A diflannodd angel yr Arglwydd.

Copyright information for CYM